GWYBODAETH CAU HEOL 10K & 3K HR ANCHOR

DYDD SADWRN 2 HYDREF 2021


Er mwyn helpu i amddiffyn diogelwch y rhedwyr a’r gwylwyr sy’n cymryd rhan yn Ras 10K ABERSOCH HR ANCHOR a Ras 3K Abersoch Holiday Homes rydym yn cau’r ffyrdd canlynol ar ddydd Sadwrn 2 Hydref 2021.

Bydd y ffyrdd ar gau am gyfnod mor fyr â phosibl. Mi fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn gallu mynd o gwmpas eu diwrnod fel yr arfer ond mi fydd rhai pobl yn cael eu effeithio. Defnyddiwch y wybodaeth ganlynol i’ch helpu chi i gynllunio’ch diwrnod ac osgoi unrhyw anghyfleustra.

AMSERLEN CAU HEOL

RAS 3K
(E) 09:00 – 09:50 Ffordd Bwlchtocyn yn arwain at y traeth
(K) 09:00 – 09:50 Ffordd i fyny o’r traeth i Bwlchtocyn

10K ABERSOCH
(1) 09:30 – 10:40 Lon Pen Cei / Lon Rhoslyn
(2) 09:30 – 10:40 Lon Pen Cei / Lon Engan / Stryd Fawr
(A) 10:00 – 10:45 Lon Sarn Bach / Lon Pentre Bach
(B) 10:00 – 10:45 Lon Pentre Bach / Porfeydd Gwyrdd
(C) 10:00 – 11:45 Croesffordd Sarn Bach
(D) 10:00 – 12:00 Bwlchtocyn
(I) 10:15 – 11:30 Bwlchtocyn / Sarn Bach
(J) 10:15 – 11:30 Pentref Bwlchtocyn
 


PWYNTIAU ALLWEDDOL

Darllenwch am gyngor defnyddiol ar gyfer y diwrnod


1. Caniatewch amser ychwanegol wrth deithio ar ddiwrnod y ras.
2. Sylwch ar amseroedd agor y ffyrdd a’u lleoliadau ar y map. Bydd llawer o ffyrdd a ddefnyddir gan y cwrs yn cael eu hagor cyn gynted ag y bydd y rhedwr olaf drwyddo i leihau anghyfleustra.
3. Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw a byddwch yn ymwybodol o ardaloedd a allai fod â thagfeydd.
4. Nid yw rhai rhannau o’r cwrs ar gau felly gyrrwch yn ofalus tra bo’r rhedwyr ar y cwrs.
5. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch a unrhyw un o’r lonydd a fydd ar gau, e-bostiwch info@sensationgroup.com neu ffoniwch 01758 710011.